Students
Tuition Fee
USD 18,450
Per year
Start Date
Not Available
Medium of studying
On campus
Duration
36 months

You've viewed 1/5 programs/universities. You can view up to 5 programs/universities

Create a free account to unlock full content!

By registering, you agree to our Privacy Statement and Terms and Conditions.

Details
Program Details
Degree
Bachelors
Major
Radiologic Technology
Area of study
Arts | Natural Science
Education type
On campus
Timing
Full time
Course Language
English
Tuition Fee
Average International Tuition Fee
USD 18,450
About Program

Program Overview


Trwy ddewis astudio’r Gymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn perthyn i ddwy adran sydd wedi’u hen sefydlu a chanddynt dros 100 mlynedd o brofiad o ymchwilio a dysgu’r ddau egwyddor ond sydd hefyd yn addysgu’n ddeinamig mewn modd sy’n procio’r meddwl. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu ac ymchwilio i drysorau pellach ym myd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a chanfod adnabyddiaeth a dadansoddiad o siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data, dyma’r radd i chi. Canfyddwch ddisgyblaeth sy’n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data. Dysgir Mathemateg yn Aberystwyth ers 1872, felly mae gan yr adran dros 140 o flynyddoedd o ragoriaeth dysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy’n addysgwyr ymroddedig ac yn ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfa i chi, ac mae’r radd hon wedi’i hachredu gan y **Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA),** sef prif gymdeithas ddysgedig a phroffesiynol y DU ar gyfer mathemateg, a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gael eich cydnabod yn Fathemategydd Siartredig. Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.Iaith Gyntaf ac Ail Iaith: mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.Adran sy’n Agorau Drysau: Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth.Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus:Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar. **Wrth gwblhau’r radd hon, byddwch wedi ennill y sgiliau isod:**+ Sgiliau ymchwilio a dadansoddi data;+ Sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch;+ Sgiliau datrys-problemau a meddwl creadigol effeithiol;+ Sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth;+ Gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm;+ Sgiliau Rheoli amser a threfnu;+ Gallu i gyfathrebu’n eglur yn ysgrifenedig ac ar lafar;+ Cymell eich hun a dibynnu arnoch eich hun. **Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau isod:**+ Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiadurol;+ Dysgu;+ Peirianneg Awyrenegol;+ Cyfrifeg a bancio;+ Dadansoddi Risg a gwaith actwaraidd;+ Rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau;+ Technoleg gwybodaeth.

See More