| Program start date | Application deadline |
| 2026-09-01 | - |
| 2027-09-01 | - |
Program Overview
Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCH
Trosolwg o'r Cwrs
Mae rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn un unigrw yng Nghymru ac yn un o lond llaw yn unig o raglenni astudiaeth feddygol tebyg yn y DU sy'n agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth.
Mae'r radd feddygol garlam, bedair-blynedd hon yn dilyn cwricwlwm sbiral arloesol, integredig sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu'r ffordd y mae clinigwyr yn trin cleifion a'r ffordd y mae cleifion yn cyflwyno i feddygon.
Byddwch yn astudio gwyddorau biofeddygol sylfaenol yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd y cyhoedd, patholeg, therapiwteg, moeseg, materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion.
Ynghyd â chanolbwyntio'n gryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, byddwch yn datblygu rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i allu ymarfer meddygaeth mewn modd cymwys a hyderus.
Mae ein proses o gyfweld am le ar y cwrs yn un strwythuredig, gan ystyried y rhinweddau hyn sydd eu hangen i fod yn feddyg, fel a bennir yn 'Good Medical Practice', a'r gallu i gyflawni'r canlyniadau yn 'Outcomes for Graduates'. I grynhoi:
- Sgiliau cyfathrebu
- Sgiliau datrys problemau
- Ymdopi â phwysau
- Mewnwelediad ac uniondeb cymeriad
- Brwdfrydedd at feddygaeth/cydnerthedd i lwyddo
- Trefniadaeth ac ymchwil
- Moeseg a gwerthoedd
Pam Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe?
- 9fed yn y DU (Guardian University Guide 2026)
- Y 15 Uchaf yn y DU ar gyfer Meddygaeth (Complete Univeristy Guide 2026)
Ysgol feddygaeth fach yw hon gyda ryw 150 o leoedd, felly byddwch yn elwa ar gyswllt helaeth â'r staff addysgu a byddwch yn cael cyswllt â chleifion gan gychwyn yn y tymor cyntaf un.
Os ydych yn siarad Cymraeg, gallwch astudio modiwl 50 credyd 'Meddyg fel Gweithiwr Proffesiynol' drwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys i ennill ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol wrth y Coleg Cymraeg.
Os nad ydych chi'n siarad Cymraeg ond rydych am ennill sgiliau Cymraeg sylfaenol ar gyfer lleoliadau gofal iechyd, gofrestru ar ein cyrsiau unigryw 'Cymraeg ar gyfer Meddygaeth'.
Gofynion Mynediad
I wneud cais am Feddygaeth i Raddedigion, rhaid eich bod wedi cyflawni pob un o'r canlynol erbyn amser y cais:
- Isafswm gradd C TGAU mewn Mathemateg
- Isafswm gradd C TGAU mewn Cymraeg/Saesneg
AC wedi cyflawni neu wedi'i ragweld* i gyflawni o leiaf un o'r canlynol:
- gradd israddedig 2:1 (Anrh) mewn unrhyw bwnc, neu
- Teilyngdod mewn gradd meistr integredig mewn unrhyw bwnc, neu
- Gradd israddedig 2:2 (Anrh) a llwyddiant mewn gradd uwch ôl-raddedig (Meistr neu PhD) mewn unrhyw bwnc
*Rhaid cadarnhau canlyniadau'r graddau a ddefnyddir i gefnogi ceisiadau heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn gofrestru arfaethedig. Bydd cynigion sy'n amodol ar ganlyniadau gradd yn cael eu tynnu'n ôl os bydd canlyniadau'n weddill ar ôl y dyddiad hwn.
Eich Addysgu
Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar ymchwil, sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol, wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion eich cwrs. Addysgir y rhan fwyaf o gyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws , gan roi'r cyfle i chi ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned ehangach y brifysgol.
Gallwch ddisgwyl cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol - gan gynnwys gwaith labordy, hyfforddiant sgiliau, neu addysgu mewn stiwdio lle bo'n berthnasol i'ch disgyblaeth. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i annog cyfranogiad gweithredol, cydweithio, a datblygu sgiliau penodol i'r pwnc a sgiliau trosglwyddadwy.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad dysgu. Gall y rhain gynnwys:
- Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac adolygu hyblyg.
- Labordai rhithwir neu amgylcheddau wedi'u hefelychu , yn enwedig mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd a disgyblaethau technegol.
- Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a fforymau trafod.
Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
Darpariaeth Gymraeg
Mae'n bosib astudio o leiaf 40 credyd o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:
- Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
- Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
- Cefnogaeth un i un yn y Gymraeg i wella eich sgiliau academaidd.
- Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr, sef Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg a CBAC.
- Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Achrediad Corff Proffesiynol
Wedi'i achredu gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol
Cwrdd â'ch Darlithwyr
Bydd myfyrwyr meddygaeth i raddedigion yn cael ei ddysgu gan amrywiaeth o glinigwyr, ymchwilwyr a staff academaidd wedi'i leoli yn yr Ysgol Feddygaeth
Prif staff addysgu'r rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yw:
Pennaeth Meddygaeth i raddedigion: Professor Ffion Williams
Cyfarwyddwr rhaglen: Professor Kenneth McKeegan
Dirprwy pennaeth academaidd: Dr Suzanne Edwards
Arweinydd derbyn: Dr Arun Ramachandran a Dr Mike Gilbert
Arweinydd cwricwlwm: Dr Sarah Rees
Ffioedd Dysgu
Dyddiad Dechrau | D.U. | Rhyngwladol
---|---|---
Medi 2026 | £ 9,535 | £ 48,350
Gall ffïoedd ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn y DU gynyddu ym mlynyddoedd dilynol astudio yn unol â'r uchafswm ffi reoledig a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Ariannu ac Ysgoloriaethau
Mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Costau Ychwanegol
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Mae'r Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.
Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
- Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
- Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
- Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
- Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
- Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr
Cymorth Academaidd
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang
I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global.
Sut i Wneud Cais
Rhaid cyflwyno pob cais am fynediad ym mis Medi 2024 trwy UCAS cyn 6pm ar 16 Hydref 2023. Mae'r dyddiad cau hwn yn berthnasol i ymgeiswyr o'r DU, yr UE a Rhyngwladol. Nid oes modd derbyn ceisiadau hwyr neu uniongyrchol.
Dyddiadau Cau Ymgeisio
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.
Profion derbyn
Rhaid i'r holl ymgeiswyr sefyll prawf mynediad cyn cyflwyno cais i astudio'r radd MBBCh (Meddygaeth i Raddedigion) gyda ni. Byddwn yn derbyn GAMSAT neu UCAT ar gyfer ymgeiswyr o'r DU, a GAMSAT, UCAT neu MCAT ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol.
Polisi Gohirio
Gan fod y rhaglen Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion) yn hynod gystadleuol, nid yw Prifysgol Abertawe'n derbyn ceisiadau ar gyfer mynediad gohiriedig ar gyfer y cwrs hwn.
Fformat y Diwrnod Asesu
Mae ymgeiswyr sy'n bodloni'r holl ofynion mynediad sylfaenol yn cael eu rhestru ar sail eu sgorau GAMSAT neu MCAT. Pennir isafswm sgôr blynyddol unwaith y bydd canlyniadau profion pob ymgeisydd wedi'u cadarnhau, a bydd yr ymgeiswyr â'r sgôr uchaf yn cael eu gwahodd i fynychu ein diwrnod asesu yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Gwybodaeth Bwysig y GMC
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi cyflwyno Asesiad Trwyddedu Meddygol (MLA) i ddangos bod y bobl hynny sy'n ennill cofrestriad gyda thrwydded i ymarfer meddygaeth yn y DU yn diwallu'r trothwy cyffredin ar gyfer ymarfer ddiogel. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o'r ffaith fod angen i bob myfyriwr meddygol lwyddo yn nwy ran yr MLA er mwyn ennill cofrestriad i ymarfer.
Addasrwydd i Ymarfer
Ymgeiswyr ag anableddau
Rhaid i ysgolion meddygol ystyried effaith cyflyrau iechyd ac anableddau ar addasrwydd myfyrwyr i ymarfer fel meddyg. Mae hyn o ganlyniad i'r ffaith bod ganddynt gyfrifoldeb dros sicrhau bod myfyrwyr yn gymwys i gael eu cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae pob cynnig yn amodol ar gadarnhad gan iechyd galwedigaethol ac addasrwydd i ymarfer.
Cronfa Ddata Myfyrwyr MSC sydd wedi'u Diarddel
Er lles diogelwch cleifion a'r cyhoedd, ac i atal ceisiadau twyllodrus i gyrsiau sy'n arwain at ymuno â phroffesiwn cofrestredig yn y DU, bydd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn rhannu rhai o'r wybodaeth a ddarperir yn eich cais gyda Chyngor Ysgolion Meddygol er mwyn gwirio eich addasrwydd i ymarfer.
Cyfle Cyfartal
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad cyfle cyfartal ac mae'n mynd ati i annog ceisiadau wrth bobl o bob gallu. Ar gyfer cyrsiau Meddygaeth, caiff pob cais ei asesu'n unigol, yn seiliedig ar allu'r ymgeisydd i gyflawni'r canlyniadau dysgu, a'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen i gyflawni'r rhaglen MBBCh fel a ofynnir yn 'Outcomes for Graduates' y GMC.
